Skip to main content
Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw.

Mae Springfield House yn adeilad Gradd ii wedi’i rhestru, sy’n agos i Barc Sant Iago yn ardal hanesyddol Ffynone. Mae’r eiddo wedi newid dwylo sawl gwaith ers ei adeiladu yn yr 1860au, ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel canolfan fyfyrio Bwdïaidd sy’n cynnal dosbarthiadau, cyrsiau ac encilion ar gyfer y gymuned Fwdïaidd leol a’r cyhoedd.

Mae gwaith atgyweirio yn cael ei wneud ar yr eiddo hardd hwn ar hyn o bryd, ac mae’r perchnogion presennol yn gobeithio tynnu sylw at bensaernïaeth brydferth y gorffennol gan gofleidio gwaith addurno a dodrefn modern.

Dewch i Drysau Agored i fwynhau taith o amgylch yr eiddo, gan fynd i un o’r sesiynau myfyrio am ddim ac ymlacio yn y caffi neu’r ardd gyda phaned o de a chacen am ddim.

Mae croeso i bawb. Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Cyfeiriad - Canolfan Myfyrio Kadampa Cymru, Springfield House, Heol Ffynone, Uplands, Abertawe, SA1 6DE.

Lleoliad - pum munud o gerdded o Heol Walter, ar dop Gerddi Sant Iago. Cadwch lygad am yr arwydd glas wrth fynedfa’r eiddo sy’n dweud Kadampa Meditation Centre Wales.


Prisiau

Am Ddim